Mewn rhyw anialwch 'r wyf yn byw,
A'r llesgaf un erioed o'm rhyw,
Peryglon mawrion yn mhob man;
Mae yma Anac yn ei rym,
A thraw Golïah gadarn, lym,
I gyd am gongcro'm hysbryd gwan.
Mae oddi fewn im' fwy na mwy
O nwydau croes i'th farwol glwy',
Pob nwyd yn gadarn ac yn gref,
Yn curo'n danbaid bob yr awr
Fy ysbryd egwan, llesg i lawr;
Fy unig noddfa yw y nef.
Dy fraich sydd gadarn iawn o rym,
Ni all uffern i'w gwrth'nebu ddim,
Mwy nerth dy air
na dw'r na thân;
O dere i'r frwydr, mae'n bryd-nawn,
Mae saethau'r fall
yn llymion iawn;
O dal fi i'r lan, a dwg fi 'mlaen.
Danfon i mi'r Dyddanydd pur,
Y golofn dân mewn anial dir
Sy'n ledio'r praidd o'r Aipht i'r nef;
Yr Hwn â'i oleu perffaith sydd
Yn gwneuthur nos yn ganol dydd,
Fy holl ddyddanwch ydyw Ef.
Tonau [888D]:
gwelir: |
In some wilderness I am living,
And the weakest one ever of my kind,
Great perils in every place;
Here is Anak in his force,
And yonder strong, keen Goliath,
All wanting to conquer my weak spirit.
From within me there are more and more
Lusts contrary to thy mortal wound,
Every lust firm and strong,
Beating fiery every hour
My weak, feeble spirit down;
My only refuge is heaven.
Thy arm is very firm of force,
Hell cannot withstand it at all,
Thy word has more strength
than water or fire;
O come thou to the battle, it is afternoon,
The arrows of the pestilence
are very sharp;
O hold thou me up, and lead me onwards.
Send thou to me the pure Comforter,
The pillar of fire in a desert land
That leads the flock from Egypt to heaven;
He whose light is perfect, is
Making night into mid-day,
All my comfort is he.
tr. 2025 Richard B Gillion |
|